Henryk Sienkiewicz

Nofelydd a newyddiadurwr Pwylaidd oedd Henryk Adam Alexander Pius Sienkiewicz (5 Mai 184615 Tachwedd 1916) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1905. Mae'n nodedig am ei nofelau hanesyddol, yn enwedig ei glasur ''Quo Vadis'' (1896). Ysgrifennai dan y ffugenw Litwos.

Ganed yn Wola Okrzejska, Gwlad Pwyl y Gyngres, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar ystâd fach. Wedi iddynt golli eu harian a'u tir, symudodd y teulu i Warsaw ac yno astudiodd Henryk lenyddiaeth, hanes, ac ieitheg ym Mhrifysgol Warsaw. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau ym 1869 ar bynciau gwyddonol ac yn clodfori Positifiaeth. Gadawodd y brifysgol ym 1871 heb iddo ennill ei radd.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Na marne'', ym 1872 a'i stori fer gyntaf, "Stary sługa", ym 1875. Teithiodd Sienkiewicz i Unol Daleithiau America ym 1876–78, ac ymwelodd â Pharis am gyfnod hir cyn iddo ddychwelyd i Wlad Pwyl. Cyhoeddodd gyfres o straeon byrion llwyddiannus, gan gynnwys "Janko muzykant" (1879), "Latarnik" (1882), a "Bartek zwyciezca" (1882). Sienkiewicz oedd cyd-olygydd y papur newydd dyddiol ''Słowo'' o 1882 i 1887. Nofelau enwocaf Sienkiewicz yw'r triawd am hanes Gwlad Pwyl yn y 17g—''Ogniem i meiczem'' (1884), ''Potop'' (1886), a ''Pan Wołodyjowski'' (1887–88)—a ''Quo Vadis'' (1896) a leolir yn Rhufain hynafol yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero.

Ym 1900, i nodi 30 mlynedd ers cychwyn ar ei yrfa lenyddol, gwobrwywyd iddo ystâd Oblęgorek, ger Kielce, ac yno fe drigai nes 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd Sienkiewicz i'r Swistir, a chyda'r pianydd a chyfansoddwr Ignacy Jan Paderewski (a fyddai'n Brif Weinidog ei wlad wedi diwedd y rhyfel) ymgyrchai dros annibyniaeth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Vevey, Vaud, y Swistir, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 793 ar gyfer chwilio 'Sienkiewicz, Henryk, 1846-1916', amser ymholiad: 0.58e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    Awduron Eraill: ...Sienkiewicz, Henryk, 1846-1916...

    Llyfr
  3. 3
    Awduron Eraill: ...Sienkiewicz, Henryk, 1846-1916...

    Llyfr
  4. 4
    Awduron Eraill: ...Sienkiewicz, Henryk, 1846-1916...

    Llyfr
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

    Llyfr
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

    Llyfr
  14. 14

    Llyfr
  15. 15

    Llyfr
  16. 16
    Be-esh uve-ḥerev : sipur mi-yeme he-ʻavar /
    באש ובחרב : סיפור מימי העבר /

    Llyfr
  17. 17
    Awduron Eraill: ...Sienkiewicz, Henryk, 1846-1916...

    This item is not available through BorrowDirect. Please contact your institution’s interlibrary loan office for further assistance.
    Llyfr
  18. 18
  19. 19

    Llyfr
  20. 20

    Llyfr