Joaquim Forn
}}Gwleidydd a chyfreithiwr o Gatalwnia yw Joaquim Forn (ganwyd 1 Ebrill 1964). Bu'n faer Barcelona ac yn Weinidog Cartref hyd at Gorffennaf 2017 yn dilyn Datganiad Annibynniaeth Catalwnia.
Graddiodd ym Mhrifysgol Barcelona, cyn ymuno â byd y gyfraith. Ymunodd â'r Convergència Democràtica de Catalunya (CDC) pan oedd yn fyfyriwr, a bu'n lladmerydd dros annibyniaeth ei wlad ers yn ifanc. Etholwyd ef ar Gyngor Dinas Barcelona yn 1999 ac erbyn 2011 roedd wedi'i benodi'n Ddirprwy Faer, gan wasanaethu yn y swydd honno tan 2015. Yna, etholwyd ef yn Weinidog Cartref Catalwnia, yng Ngorffennaf 2017. Darparwyd gan Wikipedia
-
1